school-badge.svg
Croeso i Ysgol Sant Baruc
school-badge.svg
Croeso i Ysgol Sant Baruc
school-badge.svg
Croeso i Ysgol Sant Baruc
school-badge.svg
Croeso i Ysgol Sant Baruc

Ar lan y môr mae’n hysgol ninnau – a thros sŵn y tonnau sydd o’n cwmpas a hynt a helynt tref y Barri o’n tu, estynnwn groeso cynnes i chi i Ysgol Gymraeg Sant Baruc.

barry-school-waves.svg

Ond, er ein bod ar y glannau, torri tir newydd sydd ar droed.

Torri tir campws newydd sbon danlli a hithau wedi’i lunio ar gyfer ei oes.

Torri tir i ddarparu cartref newydd i hanner canrif o dreftadaeth addysgol ac, wrth i’r ysgol lenwi dros y degawd i ddod, dros 400 o blant.

Torri tir i’r iaith Gymraeg a’i ffyniant parhaus yn y Barri a Bro Morgannwg. Cadwn un llygaid ar ein gorffennol, a’r llall ar y gorwel.

Yn adlais olion diwydiant gynt, cewch nawr sŵn a gweithgarwch diwydiant o fath gwahanol: sŵn chwerthin a mwynhau cymuned glòs, llon ein hysgol ni.

Gwerthoedd Gwerthfawr: Credu, Cyflawni, Llwyddo

achieve@2x.png
Cyflawni

Yn ein hysgol ni, gosodwn werth ar ymdrech. Rydym ni’n meddwl bod rhoi cynnig ar rywbeth yn ddeilliant yn ei hunan ac un sy’n llawn haeddu canmoliaeth. Gwyrth ymdrech ydy ei fod, o’i brofi, yn atgyfnerthu ac ail-ysgrifennu yr hyn a gredwn am ein hunain - dydy’r stori heb ei gorffen eto. Hud a lledrith ydy hyn - o gredu, daw ceisio ac o geisio, daw cyflawni. 

succeed@2x.png
Llwyddo

Yn Ysgol Sant Baruc, rydym yn gwybod taw amod Llwyddo ydy ymdrech barhaus, ymarfer a mireinio. Llwyddo ydy ffrwyth ymdrech ar ôl ymdrech dros amser. Mae’n harfordir yn dyst i effaith ymdrech ton ar ôl ton ar ei ffurf. Mae’n tref yn brawf sut gall gosod gofalus un bric ar ôl y llall weddnewid lle yn llwyr. Ddigwyddodd y naill na’r llall o’r rhain dros nos.

Trosolwg o’r Cwricwlwm

literacy.svg

Ieithoedd a Llythrennedd

Mae’r gallu i wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn dda yn agor sawl drws ar gyfer y dyfodol ac yn gwella ansawdd bywyd yn y presennol.
Darllen mwy
Mathematics and Numeracy .svg

Mathemateg a Rhifedd

Mae Mathemateg o’n cwmpas o hyd. Ym mhensaerniaeth adeiladau ein tref, amserlen yr orsaf drenau, llanw a thrai yr Hafren, patrwm y petalau.
Darllen mwy
science.svg

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae glannau y Barri wedi bod yn dyst i’r effaith gall Gwyddoniaeth a Thechnoleg gael ar ardal.
Darllen mwy
Humanities.svg

Y Dyniaethau

Gallwn ni ddim a pherthyn heb wybod i beth a phwy rydym ni’n perthyn iddyn nhw. Nod y dyniaethau ydy gwerthuso’r gorffennol, amddiffyn y dyfodol, ac ystyried sut mae byw yn y presennol.
Darllen mwy
health.svg

Iechyd a Lles

Mae iechyd a datblygiad corfforol, iechyd meddwl, a lles cymdeithasol ac emosiynol yn feysydd eang sy’n gorgyffwrdd. Mae nerth sylfaen gadarn o iechyd da yn gosod llwyfan er mwyn dysgu.
Darllen mwy
express.svg

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae Hen Wlad fy Nhadau yn gartref i feirdd, cantorion, enwogion - dyma wlad y gân wedi’r cwbwl.
Darllen mwy
ethos-values.svg
Cyfleusterau newydd sbon

Tu fewn, cewch 15 o ystafelloedd dosbarth gan gynnwys dosbarth at bwrpas i’r Meithrin. Mae dwy neuadd  - un fawr lawr llawr, un llai lan staer. Tu allan, cewch gaeau eang a llain galed aml-bwrpas. Cysegrir rhai ardaloedd ar gyfer gerddi a rhai ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt. Mae’r WiFi yn ymestyn i bob cwr a chornel o’r campws - tomen o gyfleoedd i gael dysgu a chwarae yn yr awyr agored. Mae llawer o’r cyfleusterau ar gael i’w llogi gan y gymuned ehangach tu hwnt i oriau’r ysgol.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×